Croeso!
Mae'r cwrs diogelu plant yng Nghymru lefel 2 wedi'i gynllunio'n benodol i gyflwyno'r cefndir sydd ei angen i ddeall cyfrifoldebau diogelu athrawon, hyfforddwyr ac unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant.
Mae'r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae diogelu yn ofyniad statudol os ydych yn gweithio gyda phlant naill ai'n broffesiynol neu'n wirfoddol fel bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am bolisiau, deddfwriaeth a chanllawiau diogelu. Bydd y cwrs yn helpu i gynyddu eich gwybodaeth ddiogelu bresennol, codi ymwybddiaeth o ddiogelu plant a chyfrifoldebau allweddol unigolion sydd angen gwybodaeth fanylach o'r pwnc. Bydd yn eich atgoffa sut i adnabod cam-drin ac adrodd am bryderon yn ogystal â dysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a beth sy'n digwydd ar ôl i atgyfeiriad i ofal cymdeithasol gael ei wneud.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant yn broffesiynol neu'n wirfoddol, mae enghreifftiau'n cynnwys; arweinwyr a gweithwyr clybiau ar ôl ysgol, hyfforddwyr chwaraeon, staff ysgolion, gwarchodwyr plant, athrawon cerddoriaeth ar ôl ysgol ac ati.
Pam dewis y cwrs hwn?
- Wedi'i gydnabod fel oriau DPP
- Cynnwys Cymraeg a chyflwyniadau fideo
- Ar-lein a chyfleus gyda llwyfan dysgu hawdd ei ddefnyddio
- Ffordd gost-effeithiol o hyfforddi heb fod angen mynychu'n bersonol
- Strwythur modiwlaidd fel y gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag yr ydych yn gyfforddus ag ef ym mhob eisteddiad
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
- Sut i adnabod cam-drin
- Sut i ymateb i fater diogelu
- Beth i adrodd, pryd i adrodd ac wrth bwy i adrodd
- Rôl Gwasanaethau Gofal, y Person Diogelu Dynodedig ac eraill
- Yr hyn y gallwch ddisgwyl i'r ymateb fod os byddwch yn rhoi gwybod am broblem bosibl
- Y fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud â diogelu
Cynnwys y cwrs
Modiwl 1 - Cyflwyniad
Modiwl 2 - Deall Cam-Drin
Modiwl 3 - Astudiaeth Achos - Baban P
Modiwl 4 - Deall Cam-Drin #2
Modiwl 5 - Adrodd a Strwythur Diogelu
Modiwl 6 - Gweithredu'r Broses Diogelu
Cwis terfynol
Gwybodaeth ychwanegol
Sengl neu luosog
Gallwch brynu'r cwrs hwn i chi'ch hun neu i grŵp o bobl am bris gostyngol (dangosir gostyngiadau ar y dudalen hon)
Prynu'r cwrs
Gallwch brynu'r cwrs (cyrsiau) ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd. Cliciwch ar fotwn 'prynu cwrs' sydd ar y dudalen hon a dewiswch faint o ddefnyddwyr sydd angen.
Ffoniwch 07 neu 07 i dalu dros y ffôn, rhwng 0900 a 1700 o'r gloch o ddydd Llun i Gwener neu os hoffech dalu trwy drosglwyddiad banc cysylltwch â ni drwy ebost ...@....
Mewngofnodi
Unwaith y byddwch wedi prynu'r cwrs byddwch yn derbyn e-bost gan y tîm gweinyddol. Byddant yn rhoi cyfarwyddiadau manwl i chi ar sut i fynd ymlaen â'ch cwrs. Gwiriwch eich ffolder sothach. Os nad ydych wedi derbyn e-bost, cysylltwch â ni.
Asesiad
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs bydd angen i chi wneud asesiad ar-lein. Mae'r asesiad yn cynnwys 24 cwestiwn amlddewis sy'n cael eu marcio'n awtomatig. Byddwch yn gwybod ar unwaith a ydych wedi pasio neu beidio. Y marc pasio yw 80%. Os byddwch yn methu'r asesiad, gallwch ailsefyll y cwis eto yn rhad ac am ddim.
Tystysgrif
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus, bydd un o'r gweinyddwyr yn cadarnhau eich bod wedi'i gwblhau ac yna'n anfon eich tystysgrif naill ai drwy e-bost neu drwy'r post.
Faint mae'n ei gostio?
Cwestiynau Cyffredin
- A yw'r cwrs diogelu plant lefel 2 hwn wedi'i achredu?
Ydy! Mae wedi'i achredu gan DPP gyda 2 awr o bwyntiau cymeradwy.
- Beth yw manteision gwneud y cwrs hwn ar-lein?
Gallwch gwblhau'r cwrs hwn lle bynnag a phryd bynnag y dymunwch. Gallwch gwblhau'r cwrs un modiwl ar y tro neu mewn un eisteddiad, pa un bynnag sy'n gyfleus i chi.
- Beth yw'r gwahanaieth rhwng diogelu lefel 1 a 2?
Mae'r cwrs hwn yn un diogelu lefel 2 sy'n cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth fanylach o ddiogelu o gymharu â lefel 1 cyfatebol.
- Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Gall y cwrs gymryd pa mor hir y dymunwch. Os dymunwch gwblhau'r cwrs mewn un eisteddiad, yna dylai gymryd tua 90 munud. Fodd bynnag, rydych hefyd yn rhydd i gwblhau'r cwrs un modiwl ar y tro.
- Sut ydw i'n dechrau?
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cwrs trwy ein gwefan Dosbarth. Bydd un o'r gweinyddwyr wedyn yn anfon cyfarwyddiadau manwl yn egluro sut i ddechrau'r cwrs.
- Faint o amser sydd gennyf i gwblhau fy nghwrs?
- A allaf ail sefyll y cwrs os byddaf yn methu'r asesiad y tro cyntaf?
Gallwch, os byddwch yn methu'r asesiad ar ddiwedd y cwrs gallwch ailsefyll y cwrs i wella'ch sgôr. Y marc pasio yw 80%.
- A oes angen imi wybod enwau'r bobl a fydd yn dilyn y cwrs pan fyddaf yn gosod yr archeb?
-
Am ba mor hir mae'r cymhwyster yn ddilys?